Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Gwyddonydd Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cael ei chydnabod yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd

Mae Lee Wong, gwyddonydd sydd wedi bod yn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru ers amser maith, wedi cael ei henwi ar Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin.

Bydd Lee yn derbyn MBE, Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, am ei gyrfa yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ymestyn dros 40 mlynedd ar draws sawl rôl.

“Rwy’n teimlo’n anrhydedd ac wedi fy llethu i dderbyn y wobr hon,” meddai Lee.

Ymunodd Lee â Gwasanaeth Gwaed Cymru ym 1980 fel Swyddog Gwyddonol dan hyfforddiant mewn Labordy Meddygol, ac fe wnaeth ymddeol i ddechrau ym mis Ebrill 2024 fel Arweinydd y Tîm Cynghori Cenedlaethol ar Iechyd Gwaed, cyn dychwelyd i weithio i’r Gwasanaeth Gwaed fel Gwyddonydd Arweiniol ar gyfer prosiectau ac addysg, sy’n golygu ei bod wedi treulio ei gyrfa gyfan yn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru.

“Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda phobl anhygoel trwy gydol fy ngyrfa, ac er mai fy enw i fydd ar y wobr, hoffwn ei chyflwyno i staff gweithgar ac ymroddedig Gwasanaeth Gwaed Cymru.”

Lee Wong

Mae Lee wedi bod y pŵer y tu ôl i newid a gwelliannau sylweddol yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru drwy gydol ei gyrfa. Yn 2016, chwaraeodd Lee ran allweddol yn y gwaith o gyflwyno rhaglen Gwasanaeth Gwaed Cymru Gyfan, a oedd yn cynnwys ymgorffori Gogledd Cymru yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, oedd wedi cael ei reoli’n flaenorol gan Gwaed a Thrawsblaniadau GIG Lloegr.

Y tu ôl i'r llenni yn y clinigau rhoi gwaed, gweithiodd Lee yn galed i sicrhau bod rhoddion gwaed yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau i gleifion mewn angen. Arweiniodd Lee y gwaith o roi proses genedlaethol safonol ar waith i nodi a thrin anemia cyn llawdriniaeth, gan leihau cyfraddau trallwyso 52% ac arhosiadau yn yr ysbyty ddau ddiwrnod ar gyfartaledd, a gwneud trin anemia yma yng Nghymru ymhlith y gorau yn y byd.

Wrth iddi weithio mewn mwy o rolau uwch, dechreuodd Lee ddarparu hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf, trwy gyflwyno llwybr i staff cymorth ddod yn Wyddonwyr Biofeddygol cofrestredig trwy astudio’n rhan-amser. Gyda chefnogaeth ei Thîm Iechyd Gwaed a’r timau trallwyso ehangach yng Nghymru, helpodd Lee i ddarparu hyfforddiant ar drallwyso gwaed i fwy na 400 o fyfyrwyr meddygol blwyddyn olaf bob blwyddyn.

Bu Lee yn gweithio mewn nifer o swyddi ar lefel y DU ar hyd ei gyrfa hefyd, gan gynnwys gweithio fel cadeirydd Rhwydwaith Trallwyso Gwaed y DU ac Iwerddon, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg Broffesiynol, fel ymddiriedolwr ac fel aelod o gyngor Cymdeithas Trallwyso Gwaed Prydain.

Yn ei rôl olaf cyn ymddeol, helpodd Lee i newid sut rydym yn rheoli iechyd gwaed yng Nghymru trwy greu’r Grŵp Goruchwylio Iechyd Gwaed Cenedlaethol (BHNOG) yn 2017, gan gael effaith barhaol ar y gymuned a bywydau’r rhai sy’n dibynnu ar roddion gwaed.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Lee yn derbyn yr anrhydedd hon. Mae'n gydnabyddiaeth haeddiannol iawn am ei chyfraniad anhygoel i Wasanaeth Gwaed Cymru, i’r gymuned trallwyso ehangach, ac i’r cleifion maen nhw’n eu gwasanaethu ar draws Cymru."

Ychwanegodd Alan: “Am y 6 blynedd diwethaf, mae Lee wedi bod ar flaen y gad o ran arferion arloesol yn ei rôl fel Arweinydd y Tîm Cynghori Cenedlaethol ar Iechyd Gwaed, ac mae hi wedi arwain mentrau sydd wedi datblygu gwaith BHNOG yn aruthrol.

"Mae Lee yn weithiwr proffesiynol gwych i fod o’i chwmpas, ac mae hi wedi gwthio'r Gwasanaeth ymlaen mewn cyfnod heriol gydag egni a gwên."